Talu TWE y cyflogwr
Rhoi gwybod i CThEF nad oes taliad yn ddyledus
Mae鈥檔 rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) os nad ydych wedi talu unrhyw gyflogeion am o leiaf un mis treth.
Gallwch roi gwybod i CThEF drwy lenwi Crynodeb o Daliadau鈥檙 Cyflogwr (EPS) (yn agor tudalen Saesneg).
Mae鈥檔 rhaid i chi ei anfon erbyn 19eg o鈥檙 mis sy鈥檔 dilyn y mis treth pan nad oedd unrhyw gyflogeion wedi鈥檜 talu.
Os na fyddwch yn anfon EPS, bydd CThEF yn anfon hysbysiad atoch yn amcangyfrif faint sydd arnoch. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb.
Rhoi gwybod i CThEF ymlaen llaw
Gallwch roi gwybod i CThEF na fyddwch yn talu unrhyw gyflogeion am rhwng mis a 12 mis trwy lenwi EPS.
Mae angen i gontractwyr yng Nghynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS), nad oes ganddynt unrhyw daliadau i鈥檞 gwneud, roi gwybod i CThEF drwy ddatganiad CIS (yn agor tudalen Saesneg) a thrwy EPS. Dim ond datganiad CIS y mae angen i gontractwyr CIS gyda thaliadau i鈥檞 gwneud ei gyflwyno.