Cyfeirnodau ar gyfer taliadau cynnar a hwyr

Bydd angen i chi ychwanegu 4 rhif at eich cyfeirnod swyddfa gyfrifon sy鈥檔 13 o gymeriadau, os ydych yn gwneud taliad cynnar neu hwyr:

  • drwy Ddebyd Uniongyrchol
  • drwy drosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ff么n
  • 芒 siec drwy鈥檙 post

Mae angen i chi ddiweddaru鈥檙 cyfeirnod bob tro y byddwch yn gwneud taliad cynnar neu hwyr.

Os ydych yn , bydd yn cyfrifo鈥檙 rhifau i chi.

Sut i gyfrifo鈥檙 rhifau ychwanegol

Mae pob mis a chwarter o鈥檙 flwyddyn dreth yn cael rhif. Mae鈥檙 4 rhif rydych yn eu hychwanegu at eich cyfeirnod swyddfa gyfrifon sy鈥檔 13 o gymeriadau yn dibynnu a ydych yn talu:

  • bob mis
  • bob chwarter
  • bob blwyddyn

Mae鈥檙 tabl hwn yn dangos y rhifau y mae angen i chi eu defnyddio ar gyfer pob mis o鈥檙 flwyddyn dreth.

Mis o鈥檙 flwyddyn dreth Cyfeirnod
6 Ebrill i 5 Mai 01
6 Mai i 5 Mehefin 02
6 Mehefin i 5 Gorffennaf 03
6 Gorffennaf i 5 Awst 04
6 Awst i 5 Medi 05
6 Medi i 5 Hydref 06
6 Hydref i 5 Tachwedd 07
6 Tachwedd i 5 Rhagfyr 08
6 Rhagfyr i 5 Ionawr 09
6 Ionawr i 5 Chwefror 10
6 Chwefror i 5 Mawrth 11
6 Mawrth i 5 Ebrill 12

Mae鈥檙 tabl hwn yn dangos y rhifau y mae angen i chi eu defnyddio ar gyfer pob chwarter o鈥檙 flwyddyn dreth.

Chwarter o鈥檙 flwyddyn dreth Cyfeirnod
6 Ebrill i 5 Gorffennaf 03
6 Gorffennaf i 5 Hydref 06
6 Hydref i 5 Ionawr 09
6 Ionawr i 5 Ebrill 12

Os ydych yn talu鈥檔 fisol

Y 4 rhif y bydd angen i chi eu hychwanegu at ddiwedd eich cyfeirnod swyddfa gyfrifon, sy鈥檔 13 o gymeriadau, yw:

  • 2 rif olaf y flwyddyn dreth y mae鈥檆h taliad ar ei chyfer
  • rhif y mis yn ystod y flwyddyn dreth y mae鈥檆h taliad ar ei gyfer

Enghraifft

Os ydych yn gwneud taliad ar gyfer y mis o 6 Mai i 5 Mehefin 2024, y 4 rhif y mae angen i chi eu hychwanegu at ddiwedd eich cyfeirnod swyddfa gyfrifon yw 2502. Caiff hyn ei gyfrifo fel a ganlyn:

  • mae鈥檙 flwyddyn dreth rydych yn talu ar ei chyfer yn dod i ben yn 2025 = 25
  • y mis rydych yn gwneud taliad ar ei gyfer (6 Mai i 5 Mehefin 2024) yw鈥檙 ail fis ym mlwyddyn dreth 2024 i 2025 = 02

Os ydych yn talu鈥檔 chwarterol

Y 4 rhif y bydd angen i chi eu hychwanegu at ddiwedd eich cyfeirnod swyddfa gyfrifon, sy鈥檔 13 o gymeriadau, yw:

  • 2 rif olaf y flwyddyn dreth y mae鈥檆h taliad ar ei chyfer
  • rhif y mis yn ystod y flwyddyn dreth pan fo鈥檙 chwarter yn dod i ben

Enghraifft

Os bydd angen i chi wneud taliad ar gyfer y chwarter sy鈥檔 cwmpasu 6 Ebrill i 5 Gorffennaf 2024, y 4 rhif y mae angen i chi eu hychwanegu at ddiwedd eich cyfeirnod swyddfa gyfrifon yw 2503. Caiff hyn ei gyfrifo fel a ganlyn:

  • mae鈥檙 flwyddyn dreth rydych yn talu ar ei chyfer yn dod i ben yn 2025 = 25
  • mae鈥檙 chwarter rydych yn talu ar ei gyfer (6 Ebrill i 5 Gorffennaf 2024) yn dod i ben yn ystod trydydd mis y flwyddyn dreth = 03

Os byddwch yn talu鈥檔 flynyddol

Y 4 rhif y bydd angen i chi eu hychwanegu at ddiwedd eich cyfeirnod swyddfa gyfrifon, sy鈥檔 13 o gymeriadau, yw:

  • 2 rif olaf y flwyddyn dreth y mae鈥檆h taliad ar ei chyfer
  • mis y flwyddyn dreth pan daloch eich cyflogeion

Enghraifft

Os gwnaethoch dalu鈥檆h cyflogeion ar 8 Hydref 2023, y 4 rhif y bydd angen i chi eu hychwanegu yw 2407. Caiff hyn ei gyfrifo fel a ganlyn:

  • mae鈥檙 flwyddyn dreth rydych yn talu ar ei chyfer yn dod i ben yn 2024 = 24
  • y mis y gwnaethoch dalu鈥檆h cyflogeion (6 Hydref i 5 Tachwedd) yw seithfed mis y flwyddyn dreth = 07