Talu TWE y cyflogwr
Printable version
1. Trosolwg
Mae’n rhaid i chi dalu’ch bil TWE (yn agor tudalen Saesneg) i Gyllid a Thollau EF (CThEF) erbyn:
-
yr 22ain o’r mis treth nesaf os ydych yn talu bob mis
-
yr 22ain ar ôl diwedd y chwarter os ydych yn talu bob chwarter – er enghraifft, 22 Gorffennaf ar gyfer chwarter 6 Ebrill i 5 Gorffennaf
Os byddwch yn talu â siec drwy’r post, bydd yn rhaid iddi gyrraedd CThEF erbyn yr 19eg o’r mis.
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog a chosbau os ywʼch taliad yn hwyr.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Sut i dalu
Gallwch wneud y canlynol:
-
³Ù²¹±ô³Ü’c³ó Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar fuddiannau gwaith rydych yn eu rhoi i’ch cyflogeion
-
³Ù²¹±ô³Ü’c³ó bil TWE gan ddefnyddio dull talu arall
Yr hyn rydych yn ei dalu
Gall eich bil TWE gynnwys y canlynol:
-
didyniadau Treth Incwm y cyflogai
-
Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 a Dosbarth 1B (yn agor tudalen Saesneg)
-
Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar ddyfarniadau terfynu a thystebau chwaraeon
-
ad-daliadau Benthyciad Myfyriwr
-
didyniadau Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) (yn agor tudalen Saesneg)
-
eich taliadau Ardoll Brentisiaethau (yn dechrau o fis Ebrill 2017 ymlaen) os oes gennych chi, neu gyflogwyr rydych yn gysylltiedig â nhw, fil cyflog blynyddol o fwy na £3 miliwn
Llyfrynnau talu
Nid yw CThEF bellach yn anfon llyfrynnau talu wedi’u printio.
Gallwch barhau i dalu treth sy’n ddyledus o flwyddyn dreth 6 Ebrill 2023 i 5 Ebrill 2024 yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu gan ddefnyddio llyfryn talu, os oes gennych un eisoes. I dalu treth ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol, mae’n rhaid i chi ddewis dull arall o dalu.
2. Talu drwy Debyd Uniongyrchol
Gallwch sefydlu Debyd Uniongyrchol drwy’ch cyfrif ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF) i dalu’ch bil yn awtomatig.
Bydd CThEF yn casglu’r taliad o’ch cyfrif banc yn awtomatig, yn seiliedig ar y swm yn eich Ffurflen Dreth (a elwir hefyd yn Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) (yn agor tudalen Saesneg)). Dim ond unwaith y bydd angen i chi sefydlu’r Debyd Uniongyrchol.
Ewch ati i’w drefnu o leiaf 4 diwrnod gwaith cyn y dyddiad dyledus ar gyfer eich taliad.
Os nad ydych wedi defnyddio’ch Debyd Uniongyrchol am 2 flynedd neu fwy, gwiriwch â’ch banc ei fod wedi’i sefydlu o hyd.
Sefydlu Debyd Uniongyrchol
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod swyddfa gyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau, fel cyfeirnod talu. Gallwch ddod o hyd i’r cyfeirnod hwn:
-
yn Ìý
-
ar y llythyr a gawsoch oddi wrth CThEF pan wnaethoch gofrestru fel cyflogwr (os gwnaeth eich cyfrifydd neu’ch ymgynghorydd treth gofrestru ar eich rhan, bydd y llythyr hwn wedi’i anfon ato)Ìý
Bydd angen i chi ychwanegu rhifau at eich cyfeirnod swyddfa cyfrifon sy’n 13 o gymeriadau, bob tro y byddwch yn gwneud y canlynol:
-
taliad cynnar (cyn y 6ed o’r mis treth neu’r chwarter mae’r taliad yn ddyledus)
-
taliad hwyr (ar neu ar ôl y 5ed o’r mis treth ar ôl i’r taliad fod yn ddyledus)
Gall eich taliad gael ei oedi os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.
Pryd y bydd y taliad yn cael ei gymryd
Fel arfer bydd CThEF yn casglu’r taliad ar y naill neu’r llall o’r canlynol:
-
yn fuan ar ôl yr 22ain o’r misÌý
-
4 diwrnod gwaith ar ôl i chi gyflwyno’r Ffurflen Dreth (os byddwch yn ei chyflwyno ar ôl y 19eg o’r mis)
Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi beth yw’r dyddiad a’r swm 3 diwrnod gwaith cyn i’r taliad gael ei gasglu, fan bellaf. Bydd y taliadau’n ymddangos ar eich cyfriflen banc fel ‘HMRC SDDS’.
Os ydych yn talu’n chwarterol, dylech barhau i gyflwyno datganiad misol. Bydd CThEF yn casglu cyfanswm y taliad bob 3 mis.
Pan na allwch dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol
Mae’n rhaid i chiÌýdalu mewn dull gwahanol os yw un o’r canlynol yn wir:
-
rydych yn gwneud taliadau o £20 miliwn neu fwy
-
rydych yn defnyddio cyfrif banc tramor i dalu’ch bil TWE
-
rydych wedi’ch eithrio rhag ³Ù²¹±ô³Ü’c³ó datganiadau TWE ar-lein
-
rydych yn ymarferwr ansolfedd
-
rydych yn gontractwr Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) nad yw wedi’i gofrestru ar gyfer TWE ar-lein
Ni allwch sefydlu Debyd Uniongyrchol i gymryd taliadau’n awtomatig am gosb TWE neu Gytundebau setliad TWE.
3. Talu gan ddefnyddio dull talu arall
Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod swyddfa gyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau, fel cyfeirnod talu.
Gallwch ddod o hyd i’r cyfeirnod hwn:
-
yn Ìý
-
ar y llythyr a gawsoch oddi wrth CThEF pan wnaethoch gofrestru fel cyflogwr (os gwnaeth eich cyfrifydd neu’ch ymgynghorydd treth gofrestru ar eich rhan, bydd y llythyr hwn wedi’i anfon ato)Ìý
Talu’ch bil TWE ar-lein
Gallwch dalu Cyllid a Thollau EF (CThEF) ar-lein drwy’r dulliau canlynol:
-
cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc gan ddefnyddio’ch manylion bancio ar-lein
-
cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein neu’ch cerdyn wrth law cyn i chi ddechrau.
Os ydych yn cymeradwyo’r taliad drwy ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein
Gallwch dalu’ch bil TWE yn uniongyrchol gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol. Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio wrth law cyn i chi ddechrau.
Gallwch ddewis dyddiad talu, cyn belled â’i fod cyn dyddiad dyledus eich taliad.
Gwiriwch eich cyfrif i wneud yn siŵr bod y taliad wedi mynd allan ar y dyddiad cywir. Os nad yw’r taliad wedi mynd allan yn ôl y disgwyl, cysylltwch â’ch banc.
Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.
Os ydych yn talu â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
Bydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.
Ni fydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn debyd personol.
Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.
Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (hyd yn oed ar wyliau banc a phenwythnosau) – nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF.
Os na allwch dalu eich bil TWE y cyflogwr yn llawn â cherdyn, dylech ddefnyddio dull talu arall megis trosglwyddiad o’r banc.
Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn
Gallwch wneud trosglwyddiad banc gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs:
-
o’ch cyfrif banc ar-lein
-
drwy ffonio’ch banc
Bydd angen i chi ychwanegu 4 rhif ychwanegol at eich cyfeirnod swyddfa cyfrifon sy’n 13 o gymeriadau, os ydych yn gwneud taliad cynnar neu hwyr.
Os ydych yn talu o gyfrif banc yn y DU
Mae’n rhaid i chi dalu i mewn i’r cyfrif CThEF hwn:
-
cod didoli - 08 32 10
-
rhif y cyfrif - 12001039
-
enw’r cyfrif - HMRC Cumbernauld
Os ydych yn talu o gyfrif banc tramor
Gallwch wneud trosglwyddiad o’ch cyfrif banc tramor trwy CHAPS.
Mae’n rhaid i chi dalu i mewn i’r cyfrif CThEF hwn:
-
rhif y cyfrif (IBAN) - GB62 BARC 2011 4770 2976 90
-
Cod Adnabod y Busnes (BIC) - BARCGB22
-
enw’r cyfrif - HMRC Cumbernauld
Dylai taliadau tramor fod mewn sterling, ac mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.
Faint o amser y mae’n ei gymryd
Fel arfer, bydd taliadau a wneir gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf.
Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os byddwch yn talu o fewn amserau prosesu’ch banc.
Fel arfer, bydd taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.
Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.
Sawl cynllun TWE
Anfonwch ffurflen ymholiadau CHAPS ar-lein (yn agor tudalen Saesneg) os hoffech wneud taliad unigol drwy CHAPS ar gyfer mwy nag un cynllun TWE.
Cyfeiriad bancio CThEF yw:
Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
Llundain
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP
Talu â siec drwy’r post
Gallwch anfon siec drwy’r post i Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) os oes gennych lai na 250 o gyflogeion.
CThEF
Direct
BX5 5BD
Nid oes angen i chi gynnwys enw stryd, enw dinas na blwch Swyddfa’r Post gyda’r cyfeiriad hwn.
Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Yr hyn i’w gynnwys
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.
Bydd angen i chi ysgrifennu eich cyfeirnod swyddfa cyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau, ar gefn y siec.
Bydd angen i chi hefyd 4 rhif ychwanegol at eich cyfeirnod swyddfa cyfrifon sy’n 13 o gymeriadau, os ydych yn gwneud taliad cynnar neu hwyr.
Slip talu
Gallwch a chynnwys hyn gyda’ch siec.
Dim ond er mwyn talu drwy’r post y gallwch ddefnyddio slip talu. Ni allwch ddefnyddio hwn mewn banc.
Peidiwch â phlygu’r slip talu na’r siec, a pheidiwch â’u glynu wrth ei gilydd.
Gallwch gynnwys llythyr ynghyd â’ch taliad er mwyn gofyn i CThEF am dderbynneb.
4. Cyfeirnodau ar gyfer taliadau cynnar a hwyr
Bydd angen i chi ychwanegu 4 rhif at eich cyfeirnod swyddfa gyfrifon sy’n 13 o gymeriadau, os ydych yn gwneud taliad cynnar neu hwyr:
- drwy Ddebyd Uniongyrchol
- drwy drosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn
- â siec drwy’r post
Mae angen i chi ddiweddaru’r cyfeirnod bob tro y byddwch yn gwneud taliad cynnar neu hwyr.
Os ydych yn , bydd yn cyfrifo’r rhifau i chi.
Sut i gyfrifo’r rhifau ychwanegol
Mae pob mis a chwarter o’r flwyddyn dreth yn cael rhif. Mae’r 4 rhif rydych yn eu hychwanegu at eich cyfeirnod swyddfa gyfrifon sy’n 13 o gymeriadau yn dibynnu a ydych yn talu:
- bob mis
- bob chwarter
- bob blwyddyn
Mae’r tabl hwn yn dangos y rhifau y mae angen i chi eu defnyddio ar gyfer pob mis o’r flwyddyn dreth.
Mis o’r flwyddyn dreth | Cyfeirnod |
---|---|
6 Ebrill i 5 Mai | 01 |
6 Mai i 5 Mehefin | 02 |
6 Mehefin i 5 Gorffennaf | 03 |
6 Gorffennaf i 5 Awst | 04 |
6 Awst i 5 Medi | 05 |
6 Medi i 5 Hydref | 06 |
6 Hydref i 5 Tachwedd | 07 |
6 Tachwedd i 5 Rhagfyr | 08 |
6 Rhagfyr i 5 Ionawr | 09 |
6 Ionawr i 5 Chwefror | 10 |
6 Chwefror i 5 Mawrth | 11 |
6 Mawrth i 5 Ebrill | 12 |
Mae’r tabl hwn yn dangos y rhifau y mae angen i chi eu defnyddio ar gyfer pob chwarter o’r flwyddyn dreth.
Chwarter o’r flwyddyn dreth | Cyfeirnod |
---|---|
6 Ebrill i 5 Gorffennaf | 03 |
6 Gorffennaf i 5 Hydref | 06 |
6 Hydref i 5 Ionawr | 09 |
6 Ionawr i 5 Ebrill | 12 |
Os ydych yn talu’n fisol
Y 4 rhif y bydd angen i chi eu hychwanegu at ddiwedd eich cyfeirnod swyddfa gyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau, yw:
- 2 rif olaf y flwyddyn dreth y mae’ch taliad ar ei chyfer
- rhif y mis yn ystod y flwyddyn dreth y mae’ch taliad ar ei gyfer
Enghraifft
Os ydych yn gwneud taliad ar gyfer y mis o 6 Mai i 5 Mehefin 2024, y 4 rhif y mae angen i chi eu hychwanegu at ddiwedd eich cyfeirnod swyddfa gyfrifon yw 2502. Caiff hyn ei gyfrifo fel a ganlyn:
- mae’r flwyddyn dreth rydych yn talu ar ei chyfer yn dod i ben yn 2025 = 25
- y mis rydych yn gwneud taliad ar ei gyfer (6 Mai i 5 Mehefin 2024) yw’r ail fis ym mlwyddyn dreth 2024 i 2025 = 02
Os ydych yn talu’n chwarterol
Y 4 rhif y bydd angen i chi eu hychwanegu at ddiwedd eich cyfeirnod swyddfa gyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau, yw:
- 2 rif olaf y flwyddyn dreth y mae’ch taliad ar ei chyfer
- rhif y mis yn ystod y flwyddyn dreth pan fo’r chwarter yn dod i ben
Enghraifft
Os bydd angen i chi wneud taliad ar gyfer y chwarter sy’n cwmpasu 6 Ebrill i 5 Gorffennaf 2024, y 4 rhif y mae angen i chi eu hychwanegu at ddiwedd eich cyfeirnod swyddfa gyfrifon yw 2503. Caiff hyn ei gyfrifo fel a ganlyn:
- mae’r flwyddyn dreth rydych yn talu ar ei chyfer yn dod i ben yn 2025 = 25
- mae’r chwarter rydych yn talu ar ei gyfer (6 Ebrill i 5 Gorffennaf 2024) yn dod i ben yn ystod trydydd mis y flwyddyn dreth = 03
Os byddwch yn talu’n flynyddol
Y 4 rhif y bydd angen i chi eu hychwanegu at ddiwedd eich cyfeirnod swyddfa gyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau, yw:
- 2 rif olaf y flwyddyn dreth y mae’ch taliad ar ei chyfer
- mis y flwyddyn dreth pan daloch eich cyflogeion
Enghraifft
Os gwnaethoch dalu’ch cyflogeion ar 8 Hydref 2023, y 4 rhif y bydd angen i chi eu hychwanegu yw 2407. Caiff hyn ei gyfrifo fel a ganlyn:
- mae’r flwyddyn dreth rydych yn talu ar ei chyfer yn dod i ben yn 2024 = 24
- y mis y gwnaethoch dalu’ch cyflogeion (6 Hydref i 5 Tachwedd) yw seithfed mis y flwyddyn dreth = 07
5. Gwirio bod eich taliad wedi dod i law
Gwiriwch eich – dylai ddiweddaru cyn pen 6 diwrnod gwaith ar ôl gwneud taliad.
Os ydych yn talu drwy’r post, gallwch gynnwys llythyr gyda’ch taliad er mwyn gwneud cais am dderbynneb gan CThEF.
6. Rhoi gwybod i CThEF nad oes taliad yn ddyledus
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) os nad ydych wedi talu unrhyw gyflogeion am o leiaf un mis treth.
Gallwch roi gwybod i CThEF drwy lenwi Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr (EPS) (yn agor tudalen Saesneg).
Mae’n rhaid i chi ei anfon erbyn 19eg o’r mis sy’n dilyn y mis treth pan nad oedd unrhyw gyflogeion wedi’u talu.
Os na fyddwch yn anfon EPS, bydd CThEF yn anfon hysbysiad atoch yn amcangyfrif faint sydd arnoch. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb.
Rhoi gwybod i CThEF ymlaen llaw
Gallwch roi gwybod i CThEF na fyddwch yn talu unrhyw gyflogeion am rhwng mis a 12 mis trwy lenwi EPS.
Mae angen i gontractwyr yng Nghynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS), nad oes ganddynt unrhyw daliadau i’w gwneud, roi gwybod i CThEF drwy ddatganiad CIS (yn agor tudalen Saesneg) a thrwy EPS. Dim ond datganiad CIS y mae angen i gontractwyr CIS gyda thaliadau i’w gwneud ei gyflwyno.