TWE ²¹â€™r gyflogres i gyflogwyr
Printable version
1. Cyflwyniad i TWE
Fel arfer, fel cyflogwr, mae’n rhaid i chi weithredu TWE fel rhan o’ch cyflogres. TWE yw system Cyllid a Thollau EF (CThEF) ar gyfer casglu Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol o gyflogaeth.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Pryd mae’n rhaid i chi gofrestru
Mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer TWE os oes unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol i unrhyw un o’ch cyflogeion yn ystod y flwyddyn dreth bresennol (ers 6 Ebrill):
- telir £96 neu fwy iddo bob wythnos
- mae’n cael treuliau a buddiannau cwmni
- mae’n cael pensiwn
- roedd ganddo swydd arall
- mae wedi cael Lwfans Ceisio Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Fudd-daliadau Analluogrwydd
Os nad oes angen i chi gofrestru, mae angen i chi gadw cofnodion cyflogres.
Taliadau a didyniadau
Pan fyddwch yn talu eich cyflogeion drwy’r gyflogres, mae hefyd angen i chi wneud didyniadau ar gyfer TWE.
Taliadau i’ch cyflogeion
Mae taliadau i’ch cyflogeion (yn agor tudalen Saesneg) yn cynnwys eu salari neu gyflog, ynghyd â phethau fel cildyrnau neu fonysau, neu dâl salwch statudol neu dâl mamolaeth statudol.
Didyniadau o’u cyflog net
Bydd angen i chi ddidynnu treth ac Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg) o’r taliadau hyn ar gyfer y mwyafrif o’ch cyflogeion. Mae’n bosibl y bydd angen i chi wneud didyniadau eraill megis ad-daliadau benthyciad myfyriwr neu gyfraniadau pensiwn.
Gwneud adroddiadau i CThEF a thalu
Rhoi gwybod am gyflog a didyniadau
Os ydych yn rhedeg cyflogres eich hun, bydd angen i chi roi gwybod i CThEF am daliadau a didyniadau eich cyflogeion (yn agor tudalen Saesneg) ar neu cyn pob diwrnod cyflog.
Bydd eich meddalwedd gyflogres yn cyfrifo faint o dreth ac Yswiriant Gwladol sydd arnoch, gan gynnwys cyfraniad Yswiriant Gwladol ar enillion pob cyflogai sydd dros £96 yr wythnos.
Bydd angen i chi anfon adroddiad arall er mwyn hawlio unrhywostyngiadau (yn agor tudalen Saesneg) ar yr hyn sydd arnoch i CThEF, er enghraifft tâl statudol.
Talu CThEF
Bydd modd i chi fwrw golwg dros yr hyn sydd arnoch i CThEF yn seiliedig ar eich adroddiadau. Yna, bydd angen i chi dalu CThEF (yn agor tudalen Saesneg) bob mis, fel arfer.
Os ydych yn gyflogwr bach sy’n disgwyl talu llai na £1,500 bob mis, gallwch drefnu i dalu’n chwarterol – cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Pethau eraill sydd angen i chi roi gwybod i CThEF amdanynt
Fel rhan o’ch adroddiadau rheolaidd, dylech roi gwybod y canlynol i CThEF:
- pan fydd cyflogai newydd yn ymuno
- os bydd amgylchiadau’r cyflogai’n newid (yn agor tudalen Saesneg), er enghraifft, mae’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu’n dod yn gyfarwyddwr
Mae’n rhaid i chi gynhyrchu adroddiadau blynyddol (yn agor tudalen Saesneg) ar ddiwedd pob blwyddyn dreth – gan gynnwys rhoi gwybod i CThEF ynghylch unrhyw dreuliau a buddiannau.
Dewis sut i redeg cyflogres
Os oes rhaid i chi weithredu TWE, gallwch ddewis sut i redeg eich cyflogres.
2. Dewis sut i redeg cyflogres
Gallwch weithredu TWE drwy’r naill ddull neu’r llall:
- talu darparwr cyflogres i wneud hynny ar eich rhan
- gwneud hynny eich hun gan ddefnyddio meddalwedd gyflogres
Talu darparwr cyflogres
Os ydych yn penderfynu talu darparwr cyflogres (er enghraifft, biwro neu gyfrifydd) i redeg eich cyflogres ar eich rhan, bydd angen i chi ystyried faint o gymorth y bydd ei angen arnoch.
Chi sy’n gyfrifol am gasglu a chadw cofnodion sy’n cynnwys manylion am y cyflogai. Bydd angen y manylion hyn ar eich darparwr cyflogres er mwyn rhedeg y gyflogres ar eich rhan.
Gall rhai darparwyr cyflogres gynnig rhagor o gymorth i chi os ydych ei angen, er enghraifft, cadw cofnodion ynghylch cyflogeion, rhoi slipiau cyflog a gwneud taliadau i Gyllid a Thollau EF (CThEF).
Fel cyflogwr, mae gennych gyfrifoldeb cyfreithiol i gwblhau bob tasg TWE – hyd yn oed os ydych yn talu rhywun arall i’w cyflawni ar eich rhan.
Rhedeg cyflogres eich hun
Bydd angen i chi gyflawni tasgau penodol er mwyn sefydlu cyflogres a thalu’ch cyflogeion am y tro cyntaf. Mae hyn yn cynnwys cofrestru fel cyflogwr gyda CThEF a rhoi gwybod iddynt am eich cyflogeion.
Esemptiadau o ran adrodd ar-lein
Efallai y byddwch wedi’ch esemptio rhag darparu adroddiadau ar y gyflogres ar-lein os yw’r canlynol yn berthnasol:
- rydych yn cael eich atal rhag defnyddio cyfrifiadur am resymau crefyddol
- rydych yn cael gwasanaethau gofal neu gymorth ar eich cyfer chi neu aelod o’ch teulu
- nid ydych yn gallu anfon adroddiadau’n electronig am eich bod yn anabl, yn oedrannus neu na allwch gyrchu’r rhyngrwyd
Mae gan CThEF arweiniad os ydych yn credu eich bod wedi’ch esemptio (yn agor tudalen Saesneg) ac y byddai’n well gennych anfon adroddiadau ar bapur.
3. Sefydlu cyflogres
Os ydych yn penderfynu rhedeg y gyflogres eich hun, bydd angen i chi gyflawni tasgau penodol er mwyn talu’ch cyflogeion am y tro cyntaf. Gallwch ddewis pryd i dalu’ch cyflogeion a pha mor aml yr ydych am wneud hynny.
-
Cofrestru fel cyflogwr gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF) a chael manylion mewngofnodi ar gyfer TWE ar-lein.
-
Dewis meddalwedd gyflogres (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn cofnodi manylion am y cyflogai, cyfrifo cyflog a didyniadau, ac adrodd i CThEF.
-
Cofnodi cyflogau, gwneud didyniadau ac adrodd i CThEF (yn agor tudalen Saesneg) ar neu cyn y diwrnod cyflog cyntaf.
-
Talu CThEF (yn agor tudalen Saesneg) – bydd angen i chi dalu’r dreth ²¹â€™r Yswiriant Gwladol sydd arnoch.
Bydd hefyd angen i chi gwblhau adroddiadau a thasgau blynyddol (yn agor tudalen Saesneg) penodol i baratoi ar gyfer y flwyddyn dreth nesaf, sy’n dechrau ar 6 Ebrill.
4. Cadw cofnodion
Mae’n rhaid i chi gasglu a chadw cofnodion o’r canlynol:
- faint ydych yn ei dalu i’ch cyflogeion (yn agor tudalen Saesneg) ²¹â€™r didyniadau a wnewch (yn agor tudalen Saesneg)
- yr adroddiadau y byddwch yn eu gwneud (yn agor tudalen Saesneg) i Gyllid a Thollau EF (CThEF).
- taliadau a wnewch i CThEF (yn agor tudalen Saesneg)
- cyfnodau o absenoldeb gan gyflogeion oherwydd gwyliau a salwch
- hysbysiadau cod treth
- treuliau neu fuddiannau trethadwy
- Dogfennau Cynllun Rhoi Drwy’r Gyflogres (yn agor tudalen Saesneg), gan gynnwys contract yr asiantaeth a ffurflenni awdurdod gan gyflogeion
Mae’n rhaid i’ch cofnodion ddangos eich bod wedi adrodd yn gywir, ac mae’n rhaid i chi eu cadw am 3 blynedd o ddiwedd y flwyddyn dreth y maen nhw’n berthnasol iddi. Efallai y bydd CThEF yn gwirio’ch cofnodion i wneud yn siŵr eich bod yn talu’r swm cywir o dreth.
Mae rheolau gwahanol ar gyfer cadw cofnodion i brofi eich bod wedi talu’r isafswm cyflog cywir (yn agor tudalen Saesneg).
Os na fyddwch yn cadw cofnodion llawn, gallai CThEF amcangyfrif yr hyn y bydd angen i chi ei dalu a chodi cosb o hyd at £3,000 arnoch.
Os caiff eich cofnodion eu colli, eu dwyn neu eu dinistrio
Os nad oes gennych gofnodion ac nad oes modd eu hadfer, mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF cyn gynted â phosibl. Mae’n rhaid i chi hefyd wneud eich gorau i ail-greu eich cofnodion – efallai y gall CThEF eich helpu os nad ydych yn siŵr faint a daloch i’ch cyflogeion.
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF os yw’ch adroddiad cyflogres terfynol (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer y flwyddyn dreth yn cynnwys ffigurau sydd:
- wedi’u hamcangyfrif – yr ydych am i CThEF eu derbyn fel ffigurau terfynol
- yn rhai dros dro – y byddwch yn eu diweddaru’n nes ymlaen gyd²¹â€™r ffigurau gwirioneddol
Diogelu data
Mae’n rhaid i chi ddilyn rheolau diogelu data (yn agor tudalen Saesneg) os yw’ch busnes yn storio neu’n defnyddio gwybodaeth bersonol.