°Õâ±ô ac absenoldeb mabwysiadu
°Õâ±ô
Telir °Õâ±ô Mabwysiadu Statudol am hyd at 39 wythnos. Y cyfanswm wythnosol yw’r canlynol:
- 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog am y 6 wythnos gyntaf
- £187.18 neu 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog (pa un bynnag sy’n is) am y 33 wythnos nesaf
Mae’n cael ei dalu yn yr un modd â’ch cyflogau (er enghraifft yn fisol neu’n wythnosol). Bydd Treth ac Yswiriant Gwladol yn cael eu didynnu.
°Õâ±ô ychwanegol
Mae’n bosibl y cewch fwy o dâl os oes gan eich cyflogwr gynllun tâl mabwysiadu cwmni. Ni all eich cyflogwr gynnig llai na’r swm statudol i chi.
Dyddiad dechrau
Mae °Õâ±ô Mabwysiadu Statudol yn dechrau pan fyddwch yn cymryd eich absenoldeb mabwysiadu.
Problemau ac anghydfodau
Os ydych yn anghytuno â swm y °Õâ±ô Mabwysiadu Statudol a gewch neu os na all eich cyflogwr ei dalu, er enghraifft am ei fod yn fethdalwr, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM.