Cynllun Talebau Cyfryngu Teuluol
Yma, cewch wybod a ydych chi’n gymwys ar gyfer y Cynllun Talebau Cyfryngu Teuluol a sut i wneud cais.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi lansio cynllun talebau a fydd yn cyfrannu hyd at £500 tuag at gostau cyfryngu ar gyfer achosion cymwys, gan gefnogi pobl i ddatrys eu hanghydfodau cyfraith teulu y tu allan i’r llys, lle bo hynny’n briodol.
Beth yw cyfryngu teuluol?
Mae cyfryngu teuluol yn broses lle bydd cyfryngwr annibynnol hyfforddedig yn eich helpu i gytuno ar drefniadau gyda rhywun arall (e.e. cyn-bartner) sy’n ymwneud â phlant, cyllid neu eiddo.
Mae’r cyfryngwr yno i’ch helpu i ddelio ag anghytundeb a dod o hyd i atebion sy’n gweithio i’r ddau ohonoch chi, ac esbonio sut i rwymo’r cytundeb dan gyfraith, os ydych chi’n dymuno gwneud hynny.
Pan fyddwch chi’n gwneud cais am orchymyn llys mewn perthynas â sawl math o anghydfod cyfraith teulu, rhaid i chi ddangos i’r llys eich bod wedi ystyried cyfryngu teuluol, drwy fod wedi mynychu Cyfarfod Asesu a Gwybodaeth am Gyfryngu (sy’n cael ei alw’n MIAM), oni bai eich bod wedi’ch .
Sut alla i gael gafael ar wasanaeth cyfryngu pan fo cyfyngiadau Covid ar waith?
Mae gwasanaethau cyfryngu wedi bod yn gweithredu’n ddiogel drwy gydol y cyfnod clo, ar-lein yn bennaf. Bydd eich cyfryngwr yn gallu egluro sut mae’r broses yn gweithio, a sicrhau eich bod yn gallu derbyn eu gwasanaeth.
Beth yw’r Cynllun Talebau Cyfryngu Teuluol?
Mae’r cynllun talebau cyfryngu teuluol yn gynllun am gyfnod penodol, sydd wedi’i gynllunio i gefnogi partïon a allai ddatrys eu hanghydfodau cyfraith teulu y tu allan i’r llys. Mae’r Llywodraeth wedi sefydlu’r cynllun mewn ymateb i Covid-19, i gefnogi adferiad yn y llys teulu, ac i annog mwy o bobl i ystyried cyfryngu fel ffordd o ddatrys eu hanghydfodau, lle bo hynny’n briodol. I gefnogi hyn, bydd cyfraniad ariannol o hyd at £500 yn cael ei ddarparu tuag at gostau cyfryngu, i deuluoedd cymwys.
Dim ond cyfryngwyr a awdurdodir gan y Cyngor Cyfryngu Teuluol sy’n cymryd rhan yn y cynllun talebau.
Pam allai cyfryngu fod o fudd i mi?
Mae cyfryngu teuluol yn eich galluogi i gadw rheolaeth. Yn wahanol i’r llys, lle bydd barnwr yn gwneud y penderfyniadau am blant a threfniadau ariannol, wrth gyfryngu byddwch chi a’r person arall/pobl eraill yn penderfynu beth rydych chi’n cytuno iddo a beth nad ydych y cytuno iddo. O ran eich plant, gall cyfryngu eich helpu i roi lles eich plentyn yn gyntaf.
Gall cyfryngu fod yn llai o straen ac yn llawer cyflymach na mynd i’r llys, felly gall fod yn ffordd effeithlon o ddatrys anghydfodau. Os na allwch chi ddod i gytundeb, mae gennych chi’r hawl o hyd i fynd i’r llys. Gallwch chi hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth cyfryngu teuluol ar ôl i chi wneud cais i’r llys.
Gall fod yn anodd i rieni sydd wedi gwahanu neu aelodau eraill o’r teulu sydd mewn anghydfod siarad â’i gilydd a chydweithio i ddod o hyd i atebion. Mae cyfryngu teuluol yn darparu strwythur diogel a chefnogol i gytuno ar y trefniadau gorau ar gyfer plant, yn ogystal ag ystyriaethau eraill fel sut i rannu asedau ac arian, a ble byddwch chi a’ch plant yn byw.
Gall cyfryngu teuluol hefyd helpu pan fydd amgylchiadau’n newid, sy’n golygu bod angen i chi wneud trefniadau newydd. Er enghraifft, wrth i blant dyfu i fyny, gall cyfryngwyr teuluol eich helpu i gytuno ar newidiadau i’r trefniadau ar gyfer plant heb orfod mynd i’r llys.
Oes rhaid i mi fod yn yr un ystafell â’r person rwyf yn cyfryngu ag ef/hi?
Wrth gyfryngu, mae’n dal yn bosibl dod i gytundeb heb fod yn yr un ystafell neu le â’r person arall – does dim rhaid i chi dreulio amser gyda’r person rydych yn cyfryngu ag ef/hi os ydych yn dewis peidio. Gall eich cyfryngwr eich helpu i ddod o hyd i ffordd o ddatrys eich anghytundeb heb gael cysylltiad uniongyrchol.
Sut ydw i’n gwneud cais am daleb gyfryngu?
Yn eich MIAM, bydd y cyfryngwr yn trafod y cynllun talebau gyda chi os yw eich achos yn gymwys. Cynigir cyfraniad ‘taleb’ i chi, yn dibynnu ar addasrwydd, y math o achos ac argaeledd y talebau.
Beth yw MIAM?
Cyn gwneud cais i’r llys am rai mathau o orchmynion cyfraith teulu, bydd gofyn i chi fynd i Gyfarfod Asesu a Gwybodaeth am Gyfryngu (MIAM) oni bai fod gennych dilys.
Mae MIAM yn gyfarfod byr gyda chyfryngwr cymwys, lle byddwch yn cael gwybodaeth am gyfryngu fel ffordd o ddatrys eich problemau. Bydd y cyfryngwr yn asesu a yw cyfryngu yn opsiwn priodol ar sail eich amgylchiadau unigol. Bydd angen i’r ddau barti gymryd rhan mewn MIAM cyn ymgymryd â chyfryngu y gallan nhw fynd iddo gyda’i gilydd, neu ar wahân.
Dim ond cyfryngwyr sydd ag ‘Achrediad y Cyngor Cyfryngu Teuluol’ gaiff lofnodi ffurflenni llys i gadarnhau eu bod wedi cymryd rhan mewn MIAM neu fod rhai eithriadau’n berthnasol.
Oes rhaid i mi dalu am MIAM cyn derbyn gwasanaeth cyfryngu?
Os ydych chi neu’r rhiant/person arall yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, bydd y ddau ohonoch yn gymwys i gael MIAM am ddim (gyda chyfryngwyr sy’n gwneud gwaith cymorth cyfreithiol).
Os nad yw’r naill na’r llall ohonoch yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, bydd yn rhaid i chi dalu am y MIAM. Mae’n costio tua £90 y person. Gall y ffioedd a amcangyfrifir amrywio yn ôl eich lleoliad a phrofiad y cyfryngwr. Mae rhai cyfryngwyr yn cynnig gostyngiadau os ydych chi’n ddi-waith neu ar incwm isel.
Gweld a ydych chi’n gymwys i gael cymorth cyfreithiol
A oes modd defnyddio’r daleb gwasanaeth cyfryngu i dalu am MIAM?
Na, dim ond i dalu am sesiynau cyfryngu y gallwch chi ddefnyddio’r daleb gyfryngu. Bydd yn rhaid i chi dalu am eich MIAM yn gyntaf, oni bai eich bod yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol.
Sut ydw i’n gwybod os ydw i’n gymwys am daleb gyfryngu?
Ar ôl cymryd rhan mewn MIAM, bydd cyfryngwr hyfforddedig yn asesu’r materion y byddwch yn ceisio eu datrys i weld a ydynt yn addas ar gyfer cyfryngu ac yn bodloni’r gofynion cymhwyso ar gyfer y cynllun talebau. Nid yw pob achos yn gymwys dan y cynllun. Mae’r mathau o achosion a nodir isod yn gymwys i gael taleb gyfryngu:
- anghydfod/cais yn ymwneud â phlentyn
- anghydfod/cais yn ymwneud â materion ariannol teuluol lle rydych chi hefyd ynghlwm ag anghydfod/cais sy’n ymwneud â phlentyn
Mae’n bwysig cofio mai dim ond pan fydd y ddau berson yn cytuno i gymryd rhan y bydd cyfryngu yn opsiwn. Felly, bydd angen i chi a’r person arall gytuno i gyfryngu.
Sut bydda i’n cael y daleb?
Os byddwch yn penderfynu bwrw ymlaen â’r broses gyfryngu, a’ch bod yn gymwys i gael y daleb, bydd eich cyfryngwr yn gwneud cais am gyllid drwy dalebau, a bydd yn cael ei thalu’n uniongyrchol iddynt ar ôl cwblhau’r holl sesiynau cyfryngu. Ni fyddwch yn cael taleb ffisegol, ac ni fydd angen i chi wneud cais amdani.
Nifer cyfyngedig o dalebau sydd ar gael, a byddant yn cael eu cynnig i bartïon cymwys nes nad oes rhagor ohonynt ar gael. Bydd eich cyfryngwr yn rhoi gwybod i chi a oes talebau ar gael.
Beth sy’n rhaid i mi ei wneud i gymryd rhan yn y cynllun?
Bydd gofyn i chi gadarnhau:
- eich bod wedi gofyn i’r cyfryngwr wneud cais am y daleb
- nad ydych chi wedi gwneud cais am daleb arall yn barod fel rhan o’r un cynllun
- eich bod wedi rhoi caniatâd i’ch cyfryngwr ddarparu’r wybodaeth angenrheidiol i’r Cyngor Cyfryngu Teuluol. Mae hyn yn cynnwys eich enw, y bil am wasanaethau cyfryngu y byddwch yn ei gael gan y cyfryngwr, a rhywfaint o wybodaeth sylfaenol am eich achos.
Faint o dalebau fydda i’n eu cael?
Dim ond unwaith fesul teulu/achos y cewch chi hawlio cyfraniad untro o hyd at £500 tuag at eich costau cyfryngu.
Os oes gennych gais neu anghydfod yn ymwneud â phlentyn a bod gennych hefyd gais mater ariannol neu anghydfod yn parhau ar yr un pryd, dim ond hyd at £500 y gallwch ei dderbyn.
Os byddwch yn gwneud ail gais ac wedi cael taleb yn barod, ni chewch ail daleb dan y cynllun hwn.
A fydd y daleb yn talu fy holl gostau cyfryngu?
Bydd hyn yn dibynnu ar y cyfraddau a bennir gan y cyfryngwr o’ch dewis a faint o sesiynau cyfryngu sydd eu hangen. Bwriad y daleb yw cyfrannu tuag at sesiynau cyfryngu. Bydd eich cyfryngwr yn dweud wrthych beth yw eu cyfraddau a faint o sesiynau y mae’r daleb yn debygol o dalu amdanynt. Gan mai £500 yw cyfanswm gwerth y daleb, efallai y bydd angen i chi gyfrannu at gost lawn eich sesiynau os byddwch yn dewis parhau â’r broses gyfryngu.
Alla i gael taleb os ydw i’n gymwys i gael cymorth cyfreithiol?
Gallwch, os ydych chi’n gymwys i gael cymorth cyfreithiol, gallwch fod yn gymwys i gael taleb o hyd.
Mae’r cynllun talebau cyfryngu yn gyfraniad ariannol untro o hyd at £500 ac ni fydd yn talu am gost MIAM. Bydd cymorth cyfreithiol yn darparu cyllid ar gyfer y MIAM a phob sesiwn gyfryngu, os ydych chi’n gymwys.
Yn eich MIAM, bydd eich cyfryngwr a achredwyd gan y Cyngor Cyfryngu Teuluol yn trafod eich opsiynau (gan gynnwys a ydynt yn gallu ymgymryd â gwaith cymorth cyfreithiol).
Mwy o wybodaeth am gymorth cyfreithiol
Alla i gael taleb os oes gan y person arall sy’n rhan o’r broses gyfryngu hawl i gael cymorth cyfreithiol??
Gallwch, mae’r talebau’n cael eu dyrannu fesul achos.
Os yw un person yn yr achos hwnnw’n gymwys i gael cymorth cyfreithiol, mae’n dal yn bosibl i’r person arall wneud cais am daleb i gyfrannu tuag at eu costau cyfryngu. Os yw’r person arall yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol ond nad ydych chi, yna bydd gennych hawl hefyd i gael cyllid cymorth cyfreithiol a fydd yn talu am gost y MIAM a’r sesiwn gyfryngu gyntaf.
A yw’r daleb gyfryngu ar gael ar gyfer materion rhwymedi ariannol?
Os yw eich materion yn ymwneud yn unig ag anghydfod/cais am rwymedi ariannol, ni fyddwch yn gallu cael taleb. Fodd bynnag, os yw eich materion yn ymwneud â phlentyn a mater rhwymedi ariannol, gallwch gael taleb, os oes rhai ar gael.
Sut ydw i’n gwybod os ydw i’n gymwys am gymorth cyfreithiol?
Rwyf eisoes wedi bod mewn MIAM ac ni chefais wybodaeth am y cynllun hwn. Alla i dderbyn gwasanaeth cyfryngu a chael taleb nawr?
Daw’r cynllun talebau cyfryngu i rym ar 26 Mawrth 2021. Dim ond pan fyddwch chi wedi cymryd rhan mewn MIAM ar neu ar ôl y dyddiad hwn y gellir cael talebau.
Casglu data
Gofynnir i chi hefyd lenwi holiadur monitro byr. Nid oes rhaid i chi lenwi hwn.
Bydd gofyn i’ch cyfryngwr ddarparu rhywfaint o wybodaeth am eich achos, megis a ydych yn dod i gytundeb ac a ydych yn gofyn i’r llys ffurfioli cytundeb. Bydd y data a ddarperir yn cael ei wneud yn ddienw cyn cael ei ddefnyddio i ddarparu gwybodaeth am y ffordd y defnyddiwyd y cynllun talebau a’r gwasanaethau cyfryngu.