Ffurflenni Treth Hunanasesiad
Dyddiadau cau
Mae’n rhaid i’ch Ffurflen Dreth ac unrhyw arian sydd arnoch ddod i law Cyllid a Thollau EF (CThEF) erbyn y dyddiad cau.
Dechreuodd y flwyddyn dreth ddiwethaf ar 6 Ebrill 2024 a daeth i ben ar 5 Ebrill 2025.
Dyddiad cau ar gyfer rhoi gwybod i CThEF a oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF erbyn 5 Hydref os oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth ac nid ydych wedi anfon un o’r blaen.
Gallwch roi gwybod i CThEF drwy gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflen Dreth ar bapur
Os ydych yn anfon Ffurflen Dreth ar bapur, mae’n rhaid i chi ei chyflwyno erbyn hanner nos ar 31 Hydref 2025.
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflen Dreth ar-lein
Os ydych yn anfon Ffurflen Dreth ar-lein, mae’n rhaid i chi ei chyflwyno erbyn hanner nos ar 31 Ionawr 2026.
Os ydych am i CThEF gasglu’r dreth sydd arnoch yn awtomatig o’ch cyflog a’ch pensiwn, cyflwynwch eich Ffurflen Dreth ar-lein erbyn 30 Rhagfyr. Ewch ati i gael gwybod a ydych yn gymwys i dalu drwy’r dull hwn.
Dyddiad cau ar gyfer talu treth sydd arnoch
Bydd angen i chi dalu’r dreth sydd arnoch erbyn canol nos ar 31 Ionawr 2026.
Fel arfer, mae ail ddyddiad cau ar gyfer talu, sef 31 Gorffennaf, os ydych yn gwneud taliadau ymlaen llaw tuag at eich bil (gelwir y rhain yn ‘daliadau ar gyfrif’).
Fel arfer, byddwch yn talu cosb os ydych yn hwyr. Gallwch apelio yn erbyn cosb os oes gennych esgus rhesymol.
Er mwyn osgoi cosb am dalu’n hwyr, gallwch ‘amcangyfrif eich bil treth Hunanasesiad’ cyn anfon eich Ffurflen Dreth er mwyn:Â
- rhoi syniad i chi o faint mae eich bil yn debygol o fodÂ
- caniatáu i chi gyllidebu a thalu mewn pryd
Os nad ydych yn gwybod eich elw ar gyfer y flwyddyn dreth gyfan
Mae’n bosibl na fyddwch yn gwybod beth fydd eich elw ar gyfer y flwyddyn dreth gyfan, er enghraifft:
- os yw’ch ‘cyfnod cyfrifyddu’ yn dod i ben ar amser gwahanol i ddiwedd y flwyddyn dreth
- os yw’ch ‘cyfnod cyfrifyddu’ yn wahanol i’ch ‘cyfnod sail’
- os ydych chi’n aros am brisiad
‘Cyfnod cyfrifyddu’ yw’r cyfnod y mae cyfrifon busnes yn cael eu cau (12 mis fel arfer) ac yn dod â’r flwyddyn busnes i ben. Gall hyn fod yn wahanol i’r cyfnod a ddefnyddir i nodi’r elw trethadwy mewn unrhyw flwyddyn dreth benodol (a elwir hefyd yn ‘gyfnod sail’).
Os nad ydych yn gwybod beth bydd eich elw ar gyfer y flwyddyn dreth gyfan cyn y dyddiad cau, dylech gyfrifo beth mae’n debygol o fod (a elwir yn ‘ffigurau dros dro’) a’u cynnwys.
Dylech roi gwybod i CThEF eich bod wedi defnyddio ffigurau dros dro pan fyddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth.
Pan fyddwch yn darganfod beth oedd eich elw ar gyfer y flwyddyn dreth gyfan, bydd angen i chi newid eich Ffurflen Dreth. Mae gennych 12 mis o’r dyddiad cau ar gyfer Hunanasesiad i wneud y newidiadau hyn.
Os oes rhagor o dreth yn ddyledus, bydd angen i chi dalu llog ar y gwahaniaeth rhwng eich amcangyfrifon a’r ffigurau terfynol. Bydd y llog yn cael ei gyfrifo o’r dyddiad dyledus gwreiddiol ar gyfer talu. Os ydych wedi talu gormod o dreth, bydd llog yn cael ei dalu i chi.
Pan fo’r dyddiad cau’n wahanol
Mae’n rhaid i Ffurflen Dreth bapur gyrraedd CThEF erbyn 31 Ionawr os ydych yn ymddiriedolwr cynllun pensiwn cofrestredig neu’n gwmni dibreswyl. Ni allwch anfon Ffurflen Dreth ar-lein.
Efallai y bydd CThEF hefyd yn anfon e-bost, neu’n ysgrifennu atoch, gan roi dyddiad cau gwahanol i chi os oedd CThEF yn hwyr yn anfon eich Ffurflen Dreth atoch.
Ffurflenni Treth Partneriaeth os oes gennych gwmni fel partner
Os yw dyddiad cyfrifyddu’ch cwmni’n syrthio rhwng 1 Chwefror a 5 Ebrill a bod un o’ch partneriaid yn gwmni cyfyngedig, mae’r dyddiadau cau ar gyfer y canlynol fel a ganlyn:
- Ffurflenni Treth ar-lein – 12 mis ar ôl y dyddiad cyfrifyddu
- Ffurflenni Treth papur – 9 mis ar ôl y dyddiad cyfrifyddu
Blwyddyn dreth 2023 i 2024 a chynharach
Mae’r dyddiad cau ar gyfer Hunanasesiad ar gyfer y blynyddoedd treth hyn wedi mynd heibio. Dylech anfon eich Ffurflen Dreth neu’ch taliad cyn gynted â phosibl – bydd yn rhaid i chi dalu cosb.